Deprecated: Function set_magic_quotes_runtime() is deprecated in /home/sites/browncowpublishing.com/public_html/wp-settings.php on line 32 Helo fis Hydref

Helo fis Hydref

Bu mis Medi yn fis prysur, yn paratoi Fireside Tales i’w argraffu, ac yn gweithio ar ddeunydd marchnata Gŵyl Daniel Owen 2011 a gwefan Brown Cow. Bu’n fis diddorol iawn oherwydd mi ges i ddarllen Fireside Tales a Straeon Y Pentan (y fersiwn Gymraeg wreiddiol) sawl gwaith yn y broses gan fwynhau gwaith Daniel Owen drosodd a thro. Mae rhywbeth hynod o foddhaol yn y modd y mae’n ysgrifennu; mae’n ysbrydoledig. Mae’r cymeriadau’n gyfoethog ac mae’r lleoliad lleol yn golygu eu bod nhw gymaint â hynny’n fwy deniadol. Er, mae’n rhaid i mi ddweud, rwy’n edrych ymlaen at hoe ar yn dilyn y lansiad yn yr ŵyl.

This entry was posted in Uncategorized. Bookmark the permalink. Both comments and trackbacks are currently closed.